Entries Tagged 'welsh' ↓

Medi

  • CYFARFOD CYMRU NESAF
  • DYDD GWEITHREDU CYMRU GYFAN!
  • GWEITHGAREDD PRIFYSGOLION
  • CEFNOGWCH Y GWRTHDYSTIAD AGROFUELS
  • DIWRNOD GWEITHREDI VESTAS
  • CO-MUTINY BRYSTE
  • DATGANIAD HINSAWDD FAWR: DIWEDDARIAD!

——————————————————————————–

CYFARFOD CYMRU NESAF

Cynhelir y cyfarfod Cymru Gyfan cyntaf yn dilyn y gwersyll yng Nghaerdydd (nid
oedd lleoliad ar gael ym Merthyr) ar y 19eg Medi 10y.b.-5y.p.

Danfonwch unrhyw gynigion ar gyfer agenda’r cyfarfod i
process@climatecampcymru.org cyn Dydd Llun 14eg.

DYDD GWEITHREDU CYMRU GYFAN!

Paratowch ar gyfer diwrnod llawn hwyl yn y ddinas! Ydyn, rydym yn dychwelyd i
Gaerdydd ar gyfer diwrnod o weithredu yn erbyn y corfforaethau, arianwyr a
chynllunwyr tu ôl i lo-newydd yng Nghymru. Fe fyddwn ar y strydoedd yn mynnu
dyfodol heb tanwydd-ffosil ar Ddydd Sadwrn 24ain Hydref. Wedyn, ar Ddydd Sul,
fe fydd gweithdai’n canolbwyntio ar y problemau a’r atebion. Dewch i
Gaerdydd ar gyfer y penwythnos!

Mwy o fanylion i ddilyn,

GWEITHGAREDD PRIFYSGOLION

Fe fydd y prifysgolion yn dychwelyd ymhen cwpl o wythnosau ar gyfer blwyddyn
arall o astudio. Hoffa Gwersyll Hinsawdd Cymru cymorth er mwyn mynd â neges y
gwersyll i’r myfyrwyr ar dir eu hun. Os ydych yn mynychu prifysgol yng
Nghymru, neu os nad ydych chi ond eisiau gweithio gyda’r tîm allanol sy’n
gobeithio mynd i ymweld â myfyrwyr a staff, cysylltwch ar:
outreach@climatecampcymru.org.

CEFNOGWCH Y GWRTHDYSTIAD AGROFUELS
Casnewydd, Medi 9

Mae’r ymgyrch ‘Atal Orsaf Tanwydd Biolegol Casnewydd’ yn gwrthwynebu
cynlluniau i adeiladu ateb ffug i newydd hinsawdd ac yn gwahodd pobol i ymuno
yn wrthdystiad am 12y.p, Dydd Mercher 9fed tu allan i’r Ganolfan Dinesig,
Casnewydd, Gwent, ac yna i ddod mewn i’r cyfarfod cynllunio am 1y.p. i fynegi
ei farn.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r ymgyrch yma ewch i:

http://www.biofuelwatch.org.uk/vogenmay2009.php

DIWRNOD GWEITHREDI VESTAS
Medi 17eg, Caerdydd

Mae’r gweithwyr a wnaeth meddiannu’r Ffactri Twrbein Gwynt Vestas ar Ynys
Wyth yn galw am wrthdystiad yng Nghaerdydd ar Medi’r 17eg er mwyn ehangu’r
ymgyrch fel rhan o’r achos fwy sy’n codi’r cwestiynnau o gyfiawnder
cymdeithasol ac amgylcheddol.

Manylion y rali hyd yn hyn yw Medi’r 17eg, 5y.p. ger cofgolofn Aneurin Bevan
ar Stryd y Frenhines. Am ragor o fanylion ar Vestas, gweler:
http://savevestas.wordpress.com/

CO-MUTINY BRYSTE

Rhwng Medi’r 17-20fed, bydd pobol yn ymgasglu ym Mhriste ar gyfer gwrthgodiad
gwethredoedd a digwyddiadau hunanlywodraethol yn ffocysu ar sefydliadau
ariannol, cyfiawnder amgylcheddol, ffiniau, bwyd a llefydd hunanlywodraethol.
Mae’n addo bod yn wythnos wych.

Ewch i wefan Co-Mutiny Bryste am ragor o wybodaeth ar weithdai a gweithredoedd
ysbrydolgar.

DATGANIAD HINSAWDD FAWR: DIWEDDARIAD!

Enillodd pwerdy E. ON Ratcliffe-on-Soar cystadlaethaeth ‘Brittains got Direct
Action’ yn y Gwersyll Hinsawdd yn Llundain wythnos diwethaf! Felly, hwnna
fydd y pwerdy glo cyntaf i gael ei gau lawr yn ddemocrataidd gan bobol yn
ymgasglu yna ar y 18fed a’r 19eg o Hydref er mwyn gweithredu yn erbyn
achosion newid hinsawdd, ar y cyd.

Am ragor o wybodaeth, ewch at:
http://www.climatecamp.org.uk/actions/climate-swoop-2009

Os oes diddordeb gyda chi mewn mynd i Swydd Nottingham fel rhan o grŵp
Gwersyll Hinsawdd Cymru, cysylltwch â: info@climatecampcymru.org

Dim ond 2 ddiwrnod i fynd!

Cyfri’r oriau cyn Camp Cymru!

Mae yna gyffro yn y cymoedd wrth i’r gwersyll nesau… Mae’r bwyd wedi ei archebu, y toiledau wedi eu cynllunio a’r paent ar y baneri bron â sychu! Felly dechreuwch feddwl am bacio eich bagiau…

Er mwyn ffeindio allan ble yn union mae’r gwersyll, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr, derbyniwch y newyddion diweddaraf trwy twitter, neu dewch yn ôl i’r safle yma, ble cewch ddiweddariad o’r map cyn gynted ag y byddwn wedi sefydlu’r gwersyll.

Bydd yr orsaf drenau agosaf ym Merthyr Tudful (cysylltiad hawdd o Gaerdydd) a bydd trafnidiaeth ar gael i’r safle. Bydd rhywun yn yr orsaf i’ch croesawu. Mae’n debyg y bydd mynediad ceir i’r safle yn gyfyngedig. Os ydych yn bwriadu dod a cherbyd rhowch wybod os gwelwch yn dda (07886 719 873). Bydd llefydd parcio ar gael gerllaw o bosib.

Cofiwch, mae hi’n gwbl gyfreithlon i fynychu’r gwersyll – gwelwch y dudalen materion cyfreithiol – ac os ydych angen mwy o ysbrydoliaeth cyn dechrau pacio eich pabell gwyliwch y fideo yma am wersylloedd blaenorol. (A cofiwch ddod ag eli haul – rydym yn disgwyl tywydd gwych!)